Cyngor Cyfreithiol i Unigolion

Os oes gennych chi broblem a bod angen cyngor cyfreithiol arnoch i’w datrys, gallech gael cymorth gan sefydliad neu gynghorydd cyfreithiol sy’n arbenigo ar eich problem.

Dyma rai cwestiynau i chi eu hystyried:

1. Oes gennych chi yswiriant treuliau cyfreithiol yr oeddech chi wedi anghofio amdano? Mae rhai pobl yn cael yswiriant treuliau cyfreithiol fel rhan o bolisi eu hyswiriant car neu gartref. Os nad ydych chi’n siŵr, darllenwch ddogfennau eich polisi neu siarad â’ch yswiriwr i gael gwybod mwy.

2. Ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol? I gael gwybod, cymerwch y prawf cymhwysedd: https://www.gov.uk/check-legal-aid

3. Os ydych chi’n gymwys, dyma sut mae hawlio:  https://www.gov.uk/legal-aid/how-to-claim

4. Os nad ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, a bod angen cynghorydd cyfreithiol arnoch chi, dylech ddewis un sydd â phrofiad ym maes perthnasol y gyfraith. I gael manylion cynghorwyr cyfreithiol, ewch i: https://www.gov.uk/find-a-legal-adviser

5. Os nad ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac yn methu talu amdano, efallai y cewch chi gyngor cyfreithiol gan y sefydliadau neu’r rhwydweithiau cyngor sydd wedi eu rhestru isod.

 

Cymorth Cyfreithiol

Os oes angen cymorth cyfreithiol arnoch chi, ond eich bod yn methu fforddio cyfreithiwr, mae Cymorth Cyfreithiol yn helpu i dalu am gostau cyngor cyfreithiol, cyfryngu teuluol a chynrychiolaeth mewn llys neu dribiwnlys


Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol drwy fynd i: www.gov.uk/legal-aid/eligibility   

Efallai y bydd modd i Gyngor Cyfreithiol Sifil roi cyngor i chi dros y ffôn os ydych chi’n byw ar incwm isel neu ar fudd-daliadau. Rhif ffôn: 0345 345 4 345. Minicom: 0345 609 6677. Ar agor rhwng 09:00 a 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 09:00 a 12:30pm ar ddydd Sadwrn. Gallwch chi hefyd anfon neges destun gyda ‘legalaid’ a’ch enw i 80010 i gael galwad ffôn yn ôl. Mae hyn yn costio yr un faint â neges destun arferol. 

 


 LawWorks – Clinigau Cyngor Cyfreithiol Di-dâl

Mae Rhwydwaith Clinigau LawWorks yn cynnig cyngor cychwynnol ynghylch amrywiol feysydd cyfraith lles cymdeithasol, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, materion yn ymwneud â thai, anghydfodau defnyddwyr, dyled a hawliau lles. Mae’r cyngor cychwynnol hwn i unigolion yn gwbl ddi-dâl.


Mae’r clinigau wedi eu hanelu at bobl nad ydynt yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac sy’n methu fforddio cyfreithiwr.

Mae gan gleientiaid 15-45 munud i esbonio mater fel arfer, a byddwch yn cael cyngor sylfaenol ynghylch y camau nesaf i'w cymryd.

Gall rhai clinigau gynnig helpu i ddrafftio llythyr.

I gael ymgynghoriad cychwynnol â chyfreithiwr, cysylltwch â’ch clinig lleol. I gael rhagor o wybodaeth am eich clinigau lleol, llwythwch y ddogfen ganlynol i lawr:

File Manylion Clinigau Cymru.docx


 

Canolfannau Cyngor

Os oes angen cyngor cyfreithiol proffesiynol arnoch chi, mae eich canolfan gyngor leol yn fan cychwyn da.

Mae canolfannau cyngor, megis canolfannau cyfraith, wedi eu staffio gan gyfreithwyr a gweithwyr achos arbenigol eraill sy’n gallu cynnig cyngor cyfreithiol am ddim, a’ch helpu chi i benderfynu ai cyfreithiwr neu gynghorydd cyfreithiol arall sydd ei angen arnoch.


Citizens Advice logo

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol am ddim ynghylch amrywiaeth o faterion, gan gynnwys problemau’n ymwneud ag arian, budd-daliadau, tai neu gyflogaeth. Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cymorth i chi os ydych chi’n wynebu argyfwng, neu os ydych chi’n ystyried eich dewisiadau. Dewch o hyd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf yma: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/ 


Efallai bydd Canolfan Gyfraith leol yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol am ddim i chi. Cyfreithiwr a gweithwyr achos arbenigol sy’n gweithio mewn Canolfannau Cyfraith.


Dydy Advice UK ddim yn cynnig cyngor yn uniongyrchol, ond ar ei wefan fe ddewch o hyd i fanylion am sefydliadau a chysylltiadau sy’n gallu cynnig cyngor ynghylch ystod eang o faterion.


 

Cynrychiolaeth am ddim mewn Llys neu Dribiwnlys


Mae Uned Pro Bono y Bar yn cynnig cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth gan fargyfreithwyr gwirfoddol mewn llys neu achosion tribiwnlys am ddim.

Dim ond pobl sydd ddim yn gallu fforddio talu ac sy’n methu cael cymorth cyfreithiol mae Uned Pro Bono y Bar yn eu helpu.

Mae’n rhaid i’ch achos gael ei gyfeirio at Uned Pro Bono y Bar gan gyfreithiwr, Aelod Seneddol, canolfan gyfraith neu asiantaeth gynghori megis Cyngor ar Bopeth.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Pro Bono y Bar - http://www.barprobono.org.uk

 

Hunangymorth ac adnoddau cyfreithiol ar-lein

Mae llawer o lwybrau hunangymorth i'w harchwilio cyn mynd i’r llys.


Efallai fod yna ombwdsman â chylch gwaith sy’n cynnwys eich problem gyfreithiol. Mae’n aml yn werth archwilio’r dewis hwn cyn ystyried cymryd camau cyfreithiol.

 

Ffynonellau eraill o gymorth a chyngor pro bono

Mae yna lawer o wahanol ffyrdd o gael cymorth a chyngor er mwyn delio â phroblem, boed hynny wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy e-bost.

I gael rhagor o wybodaeth am ddarparwyr cenedlaethol, cliciwch y ddolen isod:  https://www.lawworks.org.uk/legal-advice-individuals/clinics/national-providers-legal-advice-individuals


Cynrychioli eich hun yn y llys

Gelwir y rheini sy’n cynrychioli eu hunain yn y llys yn Ymgyfreithwyr sy’n Cynrychioli’u Hunain neu Ymgyfreithwyr Drostynt eu Hunain.


Support Through Court logo

Mae Support through court yn helpu ymgyfreithiwr drostynt eu hunain, eu ffrindiau a’u teuluoedd, tystion, dioddefwyr a defnyddwyr llys amhrofiadol.


I gael rhagor o wybodaeth am gynrychioli eich hun yn y llys, cliciwch y ddolen isod: www.lawworks.org.uk/legal-advice-individuals/going-court-without-lawyer