Mynd i'r Llys heb Gyfreithiwr

Os ydych chi’n cynrychioli eich hun yn y llys neu mewn tribiwnlys (gelwir hyn yn Ymgyfreithiwr Drosto’i Hun), neu’n ystyried gwneud hynny, efallai fod cymorth a chyngor ar gael am ddim i chi ar wahanol gamau o’ch achos.

Cyngor Cyfreithiol: Mae yna sefydliadau sy’n cynnig cyngor cyfreithiol. Mae ganddyn nhw wybodaeth arbenigol a gallan nhw roi cyngor i chi am eich achos penodol chi, eich helpu chi i benderfynu a fyddai ei anfon i’r llys yn werth ei wneud, ac esbonio gweithdrefnau a rheolau'r llys.  

Cynrychiolaeth: Efallai y byddwch yn gallu cael cynrychiolaeth. Mae’n bosib bydd rhywun yn gallu dod gyda chi i’ch gwrandawiad llys neu dribiwnlys a siarad ar eich rhan, gan siarad â’r llys neu’r tribiwnlys ynglŷn â’ch achos.

Cefnogaeth Emosiynol: Mae rhai sefydliadau yn gallu darparu rhywun i chi siarad â nhw a rhywun i ddod gyda chi i’r llys er mwyn eich cefnogi chi.

Cyngor Ymarferol:  Mae yna sefydliadau sy’n gallu eich helpu i wneud tasgau ymarferol sydd ddim yn gofyn am wybodaeth gyfreithiol arbenigol – er enghraifft, gallan nhw eich helpu i roi trefn ar eich dogfennau a’ch meddyliau, esbonio beth sy’n digwydd yn y llys a’ch cyfeirio at asiantaethau cyngor cyfreithiol.

Canllawiau Cyffredinol: Mae canllawiau cyffredinol ar gael ar ffurf taflenni, gwefannau neu ffilmiau byr. Gallan nhw egluro prosesau neu’r gyfraith, a gall gwybodaeth dda eich helpu chi i benderfynu ar yr hyn rydych chi am ei wneud, a sut i wneud hynny, ond ni fydd wedi ei deilwra i’ch sefyllfa benodol chi. 

 

Advice Now

Mae gwefan Advice Now yn cynnig rhagor o wybodaeth, gan gynnwys canllawiau a manylion ynghylch sefydliadau a allai fod o gymorth.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://www.advicenow.org.uk/guides/get-help-if-you-are-representing-yourself-court-or-tribunal